#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
1. Cyflwyniad
Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; yr UE; y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 31 Mai a 14 Mehefin, ond cyfeirir hefyd at ddigwyddiadau diweddarach pan fydd gwybodaeth ar gael ar adeg llunio'r drafft terfynol.
2. Datblygiadau yng Nghymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:
§ 5 Mehefin: Cyfarfu'r Pwyllgor yn breifat i ystyried ei adroddiadau drafft ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru a Bil y Diddymu Mawr.
§ 12 Mehefin: Dechreuodd y Pwyllgor ei ymchwiliad i oblygiadau gadael yr UE o ran porthladdoedd Cymru. Clywodd dystiolaeth gan arbenigwyr academaidd, awdurdodau'r porthladdoedd a grwpiau cysylltiedig, a grwpiau dosbarthu a chludo nwyddau. Bydd grŵp rapporteur o'r Pwyllgor yn ymweld â Dulyn i gwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Iwerddon a rhanddeiliaid Gwyddelig ar 19 Mehefin.
16 Mehefin: Cyhoeddodd y Pwyllgor yr adroddiad ar ei ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru.
Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/undeb-ewropeaidd/.
Cyhoeddir blogiau'r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blogiau diweddaraf am Brexit yw Amcangyfrifo'r llinell amser ar gyfer deddfwriaeth Brexit, “Bil y Diddymu Mawr”: Beth yw'r goblygiadau?, a Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan delerau “Sefydliad Masnach y Byd” i economi Cymru?.
Arall
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn llunio adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae 'Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol' yn rhan benodol o gylch gorchwyl ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i recriwtio meddygol.
7 Mehefin: Dadl yn y Cyfarfod Llawn: Y Diwydiant Amaethyddol a Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
7 Mehefin: Dadl yn y Cyfarfod Llawn: Yr Economi a Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
14 Mehefin: Dadl fer yn y Cyfarfod Llawn Cymru yn y Byd – Meithrin Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru.
21 Mehefin: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar system fewnfudo y DU yn y dyfodol.
Newyddion
4 Mehefin: Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio: os yw amaethyddiaeth yn methu, bydd ein cymunedau gwledig yn methu hefyd.
6 Mehefin: Statws gwarchodedig i Berai a Seidr Traddodiadol o Gymru (Llywodraeth Cymru)
7 Mehefin: Mae'n amser uno yn dilyn yr etholiad cyffredinol (Cymdeithas y Ffermwyr Tenant)
7 Mehefin: Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru yn cyflwyno ei weledigaeth ar gyfer masnach ar ôl gadael yr UE.
8 Mehefin: Mae mynediad i weithwyr mudol yn hanfodol i fwy na hanner y busnesau yng nghefn gwlad (y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad)
9 Mehefin: Ymateb y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad i ganlyniad etholiad cyffredinol 2017.
9 Mehefin: Ymateb Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru i ganlyniad yr etholiad cyffredinol.
9 Mehefin: Ni ddylid anghofio rhan allweddol masnach yn sgil canlyniad yr etholiad (Undeb Amaethwyr Cymru)
11 Mehefin: Gallai Airbus edrych y tu hwnt i'r DU os na chaiff ei ofynion o ran gadael y DU eu bodloni (adroddiad Reuters o'r Sunday Times)
12 Mehefin: Mae'n rhaid ymddwyn yn llai fel gwleidyddion ac yn fwy fel gwladweinyddion i sicrhau proses lwyddiannus wrth adael yr UE (y Gymdeithas y Ffermwyr Tenant)
12 Mehefin: Paratoi ar gyfer gadael y DU yn bwnc llosg i’r 4000 o ffermwyr mewn sioeau teithiol(Llywodraeth Cymru)
13 Mehefin: Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw arni i roi economi’r DU uwchlaw ei budd gwleidyddol ei hun ac ailystyried ei chynlluniau ar gyfer ‘Brexit caled’ (Llywodraeth Cymru)
15 Mehefin: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyntaf mewn cyfres o bapurau, Brexit a Datganoli, a oedd yn ddilyniant o Diogelu Dyfodol Cymru.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf o'r UE
Y Cyngor Ewropeaidd
22-23 Mehefin: Y Cyngor Ewropeaidd. Bydd y Cyngor yn trafod mudo, diogelwch ac amddiffyn, swyddi, twf a chystadleurwydd, a'r broses o adael yr UE (heb y DU).
Y Comisiwn Ewropeaidd
31 Mai: Y Comisiwn yn nodi ffyrdd posibl o ddatblygu undeb economaidd ac ariannol Ewrop ymhellach.
31 Mai: Yr Is-lywydd Dombrovskis ar ddatblygu'r undeb economaidd ac ariannol ymhellach.
4 Mehefin: Yr ymosodiadau yn Llundain: Datganiad gan Jean-Claude Juncker, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd.
7 Mehefin: Y Consensws Ewropeaidd newydd ar Ddatblygu – yr UE a'r Aelod-wladwriaethau'n llofnodi strategaeth ar y cyd i ddileu tlodi.
7 Mehefin: Ewrop sy'n amddiffyn: Y Comisiwn yn agor y drafodaeth ynghylch symud tuag at undeb o ran diogelwch ac amddiffyn.
12 Mehefin: Cyflwynwyd papur safbwynt i'r DU: Egwyddorion hanfodol o ran y setliad ariannol.
12 Mehefin: Cyflwynwyd papur safbwynt i'r DU: Egwyddorion hanfodol o ran hawliau dinasyddion.
13 Mehefin: Y Comisiwn yn cynnig trefniadau mwy cadarn ar gyfer goruchwylio cyd-bartïon canolog: “the foreseen withdrawal of the United Kingdom from the EU will have a significant impact on the regulation and supervision of clearing in Europe”. Brwsel a'r frwydr ynghylch clirio Ewros (adroddiad Politico ar y cynnig)
14 Mehefin: Araith gan yr Arlywydd Juncker yn Senedd Ewrop ar baratoadau'r Cyngor Ewropeaidd ar 22 a 23 Mehefin 2017.
Senedd Ewrop
31 Mai: Munud o dawelwch er cof am y dioddefwyr ym Manceinion, yr Aifft, Baghdad a Kabul.
31 Mai: Aelodau o Senedd Ewrop yn ymateb i'r cynigion 'pecyn symudedd'.
1 Mehefin: Llywydd Senedd Ewrop, Antonio Tajani: “the Paris agreement is alive and we will take it forward”.
12 Mehefin: Munud o dawelwch er cof am y dioddefwyr yn Llundain a Tehran.
13 Mehefin: Dyfodol y polisi cydlyniant ar ôl 2020.
14 Mehefin: Aelodau o Senedd Ewrop yn trafod eu cyfraniad at y cyfarfod o Gyngor Ewrop sydd ar ddod.
Newyddion Ewropeaidd
9 Mehefin: Atebodd Llywydd y Comisiwn, Jean-Claude Juncker, gwestiynau am etholiad y DU a gadael yr UE mewn cyfweliad: “Europeans 'Must Learn World Affairs” - Spiegel Online (yn Saesneg)
9 Mehefin: Llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, yn rhybuddio efallai na fydd 'dim bargen' os bydd y trafodaethau ynghylch gadael yr UE yn cael eu gohirio (Financial Times)
13 Mehefin: Michel Barnier yn rhybuddio'r DU ei bod yn wynebu gadael yr UE heb fargen: "I can't negotiate with myself" (Sky)
14 Mehefin: Yr UE yn dweud wrth y DU bod y drws yn dal ar agor (EU Observer)
4. Datblygiadau yn y DU
Llywodraeth y DU
1 Mehefin: Galwad ffôn y Prif Weinidog ac Arlywydd UDA.
4 Mehefin: Datganiad y Prif Weinidog yn dilyn yr ymosodiad gan derfysgwyr yn Llundain.
9 Mehefin: Datganiad y Prif Weinidog: Etholiad cyffredinol 2017.
9 Mehefin: Siaradodd y Prif Weinidog Theresa May ag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ac Arlywydd yr UDA, Donald Trump.
10 Mehefin: Galwadau'r Prif Weinidog â Phrif Weinidog Awstralia a Phrif Weinidog Seland Newydd.
10 Mehefin: Siaradodd y Prif Weinidog Theresa May ag Arlywydd yr Almaen, Angela Merkel, yn dilyn canlyniadau'r etholiad cyffredinol.
11 Mehefin: Siaradodd y Prif Weinidog, Theresa May, â'r Taoiseach, Enda Kenny.
11 Mehefin: Y rhestr lawn o aelodau'r Cabinet yn dilyn etholiad cyffredinol 2017.
13 Mehefin: Cynhadledd y Prif Weinidog i'r wasg gydag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.
14 Mehefin: Penodwyd rhai gweinidogion newydd gan y Prif Weinidog, Theresa May, yn dilyn etholiad cyffredinol 2017. Y cyn-Aelod Cynulliad, yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, yn ymuno â'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon. Mae'r cyn-Aelod Cynulliad, y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, wedi gadael y Llywodraeth.
14 Mehefin: Efallai na fydd pwyllgorau San Steffan yn cael eu sefydlu tan fis Hydref (Adroddiad y BBC)
Tŷ’r Cyffredin
13 Mehefin: Ailethol John Bercow AS yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin.
14 Mehefin: Aeth Tŷ'r Cyffredin i Dŷ'r Arglwyddi i gael cymeradwyaeth Brenhinol ar gyfer y Llefarydd a ddewiswyd.
14-15 Mehefin: Aelodau Tŷ'r Cyffredin yn tyngu llw.
19 Mehefin: Agoriad Swyddogol y Senedd.
Tŷ’r Arglwyddi
13-14 Mehefin: Aelodau Tŷ'r Arglwyddi yn tyngu llw.
Newyddion
7 Mehefin: Y manylion o faniffestos Corbyn a May sydd heb eu costio (politics.co.uk)
8 Mehefin: Gadael yr UE, yr amgylchedd a datganoli (Blog Brexit a Chymru)
9 Mehefin: Pleidlais yr ifanc yn etholiad cyffredinol 2017: gwybodaeth neu ryngweithio (Blog Brexit a Chymru)
12 Mehefin: Gostyngiad o 96 y cant yn nifer y ceisiadau gan nyrsys o'r UE i weithio yn y DU ers y bleidlais i adael yr UE (Sky)
12 Mehefin: Y senedd grog yn ergyd i hyder busnesau, ond nid oes fawr ddim galw am etholiad arall (arolwg Sefydliad y Cyfarwyddwyr)
12 Mehefin: Arolwg newydd yn dangos bod busnesau yn gwbl amharod ar gyfer oes newydd gyda llai o fewnfudo (Resolution Foundation)
12 Mehefin: Mae angen meddylfryd newydd ar gyfer y trafodaethau ynghylch gadael yr UE(Cydffederasiwn Diwydiant Prydain)
13 Mehefin: Diwydiant yn galw am ailfeddwl y strategaeth o ran gadael yr UE a chynnwys mynediad i'r farchnad sengl a'r undeb tollau fel rhan o'r trafodaethau (EEF)
5. Yr Alban
4 Mehefin: Datganiad ar yr ymosodiad gan derfysgwyr yn Llundain.
12 Mehefin: Gadael yr UE yn bygwth hawliau pobl anabl.
6. Gogledd Iwerddon
Mae'r Cynulliad wedi cyhoeddi EU Matters: BREXIT Negotiation Focus, sy'n cynnwys crynodeb o safbwyntiau Llywodraeth y DU, y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop yn y trafodaethau perthnasol.
7. Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon
4 Mehefin: Y Taoiseach ar yr ymosodiadau gan derfysgwyr yn Llundain.
11 Mehefin: Y Taoiseach yn trafod canlyniad etholiad cyffredinol y DU gyda Theresa May.
13 Mehefin: Ymddiswyddiad y Taoiseach.
8. Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd
Cambridge Brexit Report (Wilberforce Society)
Brexit: Preserving the Rights of EU Citizens in the UK (Migration watch UK)
Making Brexit Work for British Business (Harvard Kennedy School)
The (not so) Great Repeal Bill, part 1: only uncertainty is certain (LSE)
The (not so) Great Repeal Bill, part 2: How Henry VIII clauses undermine Parliament(LSE)
British voters prefer EU to non-EU migrants (LSE)